Ebrill 23 - 25
gyda Fflur Dafydd a Llwyd Owen
Mae hwn yn gwrs ar gyfer dechreuwyr sydd â’u bryd ar sgwennu ffuglen. Bydd y
tiwtoriaid yn eich cynorthwyo i greu storïau lliwgar drwy gyflwyno amrywiaeth o
dechnegau. Cewch y cyfle i weithio fel rhan o grwp ac i fynychu sesiynau unigol gyda’r
tiwtoriaid i drafod ac i fagu hyder yn awyrgylch braf a chartrefol Tŷ Newydd.
Fflur Dafydd

Nofelydd, academydd, cantores a cherddor. Daeth i
amlygrwydd gyda’i chyfrol, Y Gwir am Gelwydd, casgliad arobryn
Medal Lenyddiaeth yr Urdd 1999. Aeth ymlaen i ennill gradd Meistr
mewn Ysgrifennu Creadigol o gwrs enwog Prifysgol Dwyrain Anglia, cyn
ennill doethuriaeth ar waith y bardd R.S. Thomas ym Mhrifysgol Cymru,
Bangor. Cafodd ei nofel gyntaf Lliwiau Liw Nos ei chyhoeddi yn 2005 ac
enillodd ei hail nofel, Atyniad, Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod
Genedlaethol 2006. Yng Ngŵyl y Gelli 2009, cyhoeddwyd mai enillydd
cyntaf Gwobr Awdur Ifanc yr Ŵyl oedd Fflur gyda'i nofel Saesneg
gyntaf, Twenty Thousand Saints, ar wasg Alcemi. Yn Eisteddfod
Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 2009 enillodd Wobr Goffa Daniel
Owen am ei nofel, Y Llyfrgell.
Llwyd Owen

Brodor o Gaerdydd yw Llwyd, sydd wedi byw a bod yn
y ddinas am fwyafrif ei fywyd. Mae’r brifddinas yn ysbrydoliaeth
parhaus iddo ac wedi chwarae rhan amlwg ym mhob un o’i nofelau.
Cyhoeddodd Ffawd, Cywliydd a Chelwyddau a Ffydd Gobaith
Cariad yn 2006, Yr Ergyd Olaf yn 2007 a Mr Blaidd yn 2009. Pan nad
yw’n ysgrifennu, mae’n hoffi bwyta peis, yfed seidr, gwrando ar
gerddoriaeth, darllen llyfrau pobl eraill a mynd am dro gyda’i
ffrindiau gorau, Lisa ac Elian. Nid yw’n hoffi adeiladwyr diog.
|