Ionawr 22 - 24
gyda Jon Gower a Iolo Williams
Bydd taith gerdded leol yn rhoi cyfle i weld nad yw natur yn llwyr gysgu yn y gaeaf. I'r gwrthwyneb, dyma'r adeg prysuraf i nifer o adar ac anifeiliaid a bydd cyfle i sylwi arnynt a chymryd nodiadau er mwyn 'sgrifennu erthyglau o flaen y tân!
Yn ystod y penwythnos byddwn yn edrych ar wahanol fathau o 'sgrifennu am natur er mwyn ysbrydoli ac ysgogi sgwrs. Bydd cyfle i weithio ar y cyd ac yn unigol gyda digon o amser i gael adborth a cheisio gwella'r gwaith. Mae Jon a Iolo yn hen, hen ffrindiau a bydd 'na dipyn o hwyl yn ogystal 'chydig o waith, gyda'r ddau yn credu bod natur yn rhyfeddol. Bwriad y cwrs fydd creu geiriau i adlewyrchu hyn.
Jon Gower

Am bum mlynedd bu John Gower yn gweithio a byw gyda Iolo Williams ym mhencadlys y Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar yng Nghymru, yn y Drenewydd. Jon oedd gohebydd celfyddydau a'r cyfryngau i BBC Cymru rhwng 2000-2006. Mae wedi cyhoeddi naw llyfr gan gynnwys An Island Called Smith, enillydd Gwobr John Morgan. Ymddangosodd ei nofel gyntaf yn Gymraeg, Dala'r Llanw yn 2009.
Iolo Williams

Cafodd Iolo swydd gyda'r RSPB yn 1985 a bu'n gweithio yno am 14 mlynedd. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau yn ystod y cyfnod yma a gwneud enw iddo'i hun fel arbenigwr blaenllaw ar adar yng Nghymru. Y mae wedi bod yn gweithio yn y cyfryngau ers 1999 ac wedi gweithio ar sawl cyfres gyda BBC Cymru gan gynnwys Wild Wales a Wild Winter. Mae Iolo hefyd wedi cyflwyno rhaglenni ar S4C gan gynnwys Gwyllt ar Grwydr a Iolo yn Rwsia..
|