Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 

 
Cwrs yr Urdd i bobl ifanc 16 - 25 oed

Tachwedd 6 - 8

gyda Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood

Mae hwn yn gwrs penwythnos sy'n addas ar gyfer ysgrifenwyr o bob math, gan gynnwys dysgwyr. Bydd cyfle i gael sesiynau unigol gyda'r tiwtoriaid i drafod eich gwaith yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdau gyda gweddill y grŵp.

Tudur Dylan Jones

Prifardd ac enillydd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint 2007. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 pan oedd ei dad, y Prifardd John Gwilym yn archdderwydd, ac yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005. Ef yw meuryn Ymryson y Beirdd a gynhelir yn y Babell Lên yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Aeth i'r Brifysgol ym Mangor ac y mae erbyn hyn yn athro yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli. Ef oedd Bardd Plant Cymru 2004-2005

Mererid Hopwood

Mae'r Prifardd Mererid Hopwood yn gweithio fel awdur a darlithydd ar ei liwt ei hun. Yn 2001 enillodd Gadair Eisteddfod Dinbych a’r cylch am ei hawdl "Dadeni" – y ferch gyntaf erioed i gyflawni’r fath gamp. Enillodd Goron yr Eisteddfod yn 2003. Mae’n aelod o fwrdd Barddas ac yn frwd o blaid poblogeiddio’r cynganeddion, yn arbennig ymhlith merched a phobl ifainc.  Hi oedd Bardd Plant Cymru 2005. Fe enillodd Mererid Fedal Ryddiaith Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch 2008 gyda’i nofel O Ran. Hi yw’r ferch gyntaf i ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiath.
Prisiau: £100 (Preswyl); £50 (Di-breswyl)
 
 
 
             


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)