Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 

 
Cwrs Cyfansoddi

Mawrth 5 - 7

gyda Steve Eaves ac Elwyn Williams

Mae’r cwrs hwn ar gyfer ysgrifenwyr a cherddorion sydd â diddordeb mewn cyfansoddi. Dewch i gael eich hysbrydoli gan ddau gerddor proffesiynol i ysgrifennu penillion caneuon neu greu darn o gerddoriaeth. Byddwch yn mynychu sesiynau grŵp yn ogystal â chael y cyfle i weithio â’r tiwtoriaid mewn sesiynau unigol. Cofiwch fod croeso i chi ddod ag offeryn gyda chi!

Steve Eaves

Bu’n perfformio ar lwyfannau fel cerddor ers dros 40 mlynedd, a daeth i amlygrwydd fel bardd a gyhoeddodd ddwy gyfrol o’i waith, Noethni (1983) a Jazz yn y Nos (1986). Ar ôl cyhoeddi ei ail gyfrol o gerddi, penderfynodd ganolbwyntio mwyfwy ar ddefnyddio’i ganeuon a’i gerddoriaeth fel cyfrwng mynegiant. Mae Steve a’i fand, Rhai Pobl, wedi recordio 9 albwm o ganeuon gwreiddiol Steve ers 1983 – yn eu plith Cyfalaf a Chyfaddawd (1985), Croendenau (1992), Y Canol Llonydd Distaw (1996),  Iawn (1999) a Moelyci (2007).

Elwyn Williams

Mae ei gyfraniad i ganu cyfoes Cymraeg yn ymestyn `nôl i ddiwedd y 1970'au. Bu'n cyfansoddi caneuon gyda'r grwp Doctor; ar gyfer Enw Da, Geraint Lovgreen ac, yn fwy diweddar, gyda'r bardd, Iwan Llwyd. Cychwynnodd ei bartneriaeth gyda Steve Eaves yn yr '80'au cynnar ac ers hynny, bu'n cyd-gynhyrchu, ac yn chwarae offerynnau amrywiol, ar ei holl recordiau. Bu hefyd  yn cyd-weithio â nifer o artistiaid eraill, o Gymru a thu hwnt,  ac mae ei enw yn ymddangos ar dros 30 o recordiau.

Prisiau: £200 (Preswyl); (+£25 am ystafell sengl) £150 (Di-breswyl)
 
 
 
             


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)