Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 

 
Croeso

Tŷ Newydd yw'r Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol ac ers 1990 mae wedi denu sgwenwyr o bob cwr o Gymru ac o bob rhan o'r byd i diwtora a mynychu cyrsiau.

Lleolir Tŷ Newydd yng nghanol llonyddwch Eifionydd. Mae'n dŷ hynafol mewn gerddi hardd gyda golygfeydd tuag at y môr, Penrhyn Llŷn a mynyddoedd Meirionnydd. Gellir dilyn llwybr o'r tŷ i'r traeth neu at lan afon Dwyfor.

Dyma gartref olaf David Lloyd George, cyn Brif Weinidog Prydain ac mae'n dŷ o ddiddordeb pensaernïol yn ogystal â hanesyddol. Mae'r tŷ gwreiddiol yn dyddio'n ôl i'r unfed ganrif ar bymtheg, a chafodd ei adnewyddu ym 40au'r ganrif ddiwethaf gan Syr Clough Williams-Ellis.

Mae'r Ganolfan yn cynnwys cyfleusterau cynhwysfawr ar gyfer yr anabl a chyfleusterau gwych ar gyfer tiwtora a dysgu.

 
Beth am logi Tŷ Newydd? - gallwch logi'r tŷ ar gyfer cynadleddau bychain, gweithdai, partïon neu aduniadau teuluol. Cliciwch yma am fanylion.
 

logo

 
 
   
Cyrsiau

CYRSIAU NEWYDD ar gyfer 2010

Nodiadau Maes - Cwrs Natur: Ionawr 22 - 24. Tiwtoriaid: Iolo Williams a Jon Gower

Cwrs Cyfansoddi: Mawrth 5 - 7. Tiwtoriaid: Steve Eaves ac Elwyn Williams

Cwrs Ffuglen i Ddechreuwyr gyda Fflur Dafydd a Llwyd Owen, Ebrill 23-25

Beth am brynu tocyn anrheg i'ch ffrindiau a theulu y Nadolig hwn? Cysylltwch â ni am fanylion: 01766 522811 post@tynewydd.org

 
ty newydd

Sut i gyrraedd Tŷ Newydd

 
 
 
             
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)