Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 

 
 
Encil

Yn ogystal â dod i Dŷ Newydd ar gwrs gallwch ddod ar encil. Bydd sgwenwyr eraill yn aros yn y tŷ a byddwch yn rhannu pryd bwyd fin nos.

Cyfle i ddianc o fywyd bob dydd am ychydig ddyddiau a chanolbwyntio ar eich sgwennu neu’ch gwaith ymchwil, neu hyd yn oed wneud dim mwy na darllen ac ymlacio. A pha well lle i wneud hyn na’r tŷ hynafol yma â’i gyfleusterau newydd a hynny ynghanol tawelwch Eifionydd?

Nid cwrs yw encil, nid oes tiwtoriaid, ond bydd staff Tŷ Newydd yn gofalu amdanoch. Bydd pawb yn cael ystafell ei hun a bydd cyfle i gymdeithasu efo eraill tra’n cydfwyta pryd gyda’r nos.

*Encil dros y Pasg*
Dydd Llun, 13eg - fore Sadwrn, 18fed Ebrill, 2009

Pris: £350

Cysylltwch i gadw lle drwy ein ffonio ar 01766 522811, neu yrru ebost i post@tynewydd.org

Dylid talu blaendal o £100 i gadw lle.

 


Afon Fach
TUTOR2










Mae hefyd yn bosib ar rhai adegau o'r flwyddyn llogi Afon Fach, bwthyn dwy lofft ar safle Tŷ Newydd er mwyn cael llonydd a heddwch i sgwennu.

Gellir llogi Afon Fach ar gyfer 2009.

Pris yr wythnos yw:

Ionawr i Mawrth, Tachwedd, Rhagfyr 2009 - £175

Ebrill i Hydref 2009 - £250

Cysylltwch â ni am fwy o fanylion. post@tynewydd.org

 

 


 
 
             
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)