Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 

 
Ysgrifenwyr mewn Gofal Iechyd a Lles
 
Cyflwyniad ar Bibliotherapi gan Victoria Field - Tachwedd 16eg. Cliciwch am wybodaeth.
 
Gweithdy Writing Together: Graham Hartill - Ionawr 29 - 31. Cliciwch am wybodaeth.
 
Cwrs A Writing Oasis: Penelope Shuttle a Victoria Field - Chwefror 26 - 28. Cliciwch am wybodaeth.
 
Gweithgareddau eraill a gwybodaeth...

Mae Tŷ Newydd, Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol ac Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer datblygu hyfforddiant ym maes ysgrifennu mewn gofal iechyd.

Ceir gwerthfawrogiad cynyddol o’r effaith y gall y celfyddydau ei gael ar les ac mae gwahanol brosiectau iechyd drwy gyfrwng celfyddyd wedi eu cynnal yng Ngwynedd yn ystod blynyddoedd diweddar, yn arbennig drwy gyfrwng y celfyddydau gweledol a cherddoriaeth. Bydd y bartneriaeth ddiweddar hon yn anelu at ddatblygu fframwaith ar gyfer hyfforddiant a phrofiad gwaith ar gyfer ysgrifenwyr Cymraeg sydd â diddordeb mewn defnyddio ysgrifennu creadigol mewn sefyllfaoedd gofal iechyd yn y sir.

Cynhaliwyd cwrs Ysgrifennu mewn Gofal Iechyd yn Tŷ Newydd ym mis Tachwedd 2008 fel cyflwyniad i’r theori a’r ymarferiad o ddefnyddio’r celfyddydau llenyddol fel rhan annatod o ofal iechyd. Bu i’r cyfranogwyr brofi gwahanol ffyrdd y mae modd defnyddio ysgrifennu gyda chleifion, cleientiaid ac mewn sefydliadau addysgiadol a chymunedol. Hwn oedd y cam cyntaf mewn datblygu ysgrifennu mewn gofal iechyd yn lleol a chafodd bwrsari ei ddyfarnu i ysgrifennwr o Wynedd i fynychu’r cwrs a chynigiwyd lleoliad profiad gwaith yn ogystal. Bydd y cwrs yma yn cael ei gynnig eto ym mis Tachwedd 2009. Mae Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ddinbych a Gwanwyn wedi cynnig bwrsariau tuag at y cwrs.

 “Fe fydd y cwrs yn gyflwyniad defnyddiol i'r maes difyr yma ac yn gyfle i ysgrifenwyr Cymraeg yng Ngwynedd a gweddill Cymru i ddatblygu sgiliau newydd a gwaith mewn sefyllfaoedd gofal iechyd er budd ein cymunedau lleol.” meddai Sally Baker, Cyfarwyddwr Gweithredol Tŷ Newydd

Dywedodd Gwawr Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd: “Mae'r Uned Celfyddydau Cymunedol yn hapus iawn o allu cydweithio â Tŷ Newydd gan gyfrannu tuag at ddatblygiad proffesiynol ysgrifennwyr o Wynedd. Rydym eisoes wedi bod yn gweithio gyda Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru ar brosiectau celfyddyd gweledol mewn sefydliadau iechyd amrywiol a rŵan yn edych ymlaen at ddatblygu cyfleon tebyg gydag ysgrifennu creadigol.”

Cefnogir y prosiect Ysgrifenwyr mewn Gofal Iechyd gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd a Chynor Sir Ddinbych a Gwanwyn.

loterilogo cynulliadcyngorgwanwynDinbych

 


 


 
           
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)