Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 
 

 

Newyddion

Damian Walford Davies yw enillydd yr Her Gyfieithu ar gyfer Eisteddfod Y Bala, 2009. Mwy...
Llwyddiant mam a mab

 

Bydd mam a mab o Bwllheli yn dod ar gyrsiau i Dŷ Newydd eleni fel rhan o lwyddiant y ddau yn ystod y misoedd diwethaf. Daeth Gwyneth Owen yn fuddugol yn yr her 'Troi a Throsi' i nodi sefydlu Tŷ Cyfieithu Cymru ym mis Mai. Gosodwyd yr her gan Menna Elfyn i drosi ei cherdd 'Dod i'w Coed' i'r Saesneg. Mae Gwyneth wedi mynychu cyrsiau gyda Menna Elfyn ac wedi cael blas ar gyfieithu ei gwaith fel rhan o brosiectau amrywiol yn y gorffennol. Mae hi wedi ennill bwyd a llety yn Nhŷ Newydd am ddwy noson fel rhan o'i gwobr. Fel y gŵyr pawb dwi'n siwr, Gruffudd Eifion Owen a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd, Bae Caerdydd eleni. Fel rhan o'i wobr bydd Gruffudd yn mynychu Cwrs yr Urdd yn Nhŷ Newydd ym mis Tachwedd. Bydd y cwrs yma yn cael ei diwtora gan y prifardd Tudur Dylan Jones a'r llenores, Catrin Dafydd. Llongyfarchiadau mawr i'r ddau.
Diwrnod Agored yn Nhy Newydd

Cafodd gweithgareddau i’r holl deulu eu cynnal yn Nhy Newydd ar Ddiwrnod i’r Dewin. Bu’n ddiwrnod llwyddiannus iawn gyda tua 150 o ymwelwyr wedi dod draw i’r digwyddiad a gynhaliwyd yma ar ddydd Sadwrn, 16eg o Fai.

Cafwyd cyflwyniad diddorol a thaith o gwmpas y tŷ – cartref olaf Lloyd George, gan y bensaernïwraig, Frances Voelcker. Disgyblion ysgolion cynradd Cae Top - Bangor, Llanystumdwy a Chwilog fu’n diddanu’r gynulleidfa yn hwyrach yn y p’nawn.

Bu i ddisgyblion Ysgol Gynradd Cae Top ganu cân werin yng nghwmni Bardd Plant Cymru, Twm Morys a fu’n gweithio â nhw ar gyfansoddi’r gân mewn gweithdai yn Nhŷ Newydd ym mis Mawrth fel rhan o brosiect e-gefeillio Ewropeaidd.

Gwelwyd ffrwyth llafur disgyblion Ysgol Llanystumdwy yn dilyn eu hymweliad â’r Lon Goed ag ymweliad Mair Tomos Ifans â’r ysgol yn nechrau mis Mai. Cafwyd berfformiad gwerth chweil o’u straeon a’u chwedlau eu hunain wedi selio ar y Lôn yn ardal Eifionydd.

Gorffenwyd ar nodyn cerddorol gyda dwy ddawns unigol ac un ddawns grŵp draddodiadol gan ddawnswyr talentog Ysgol Chwilog.

Ysgol Cae Top Cynulleidfa

Ysgol Llanystumdwy Disgyblion Cae Top

 

 
Tystysgrif Celfyddydau a Busnes am ragoriaeth mewn partneriaeth rhwng Ty Newydd a chydgwmniau dan arweiniad Carillion.

Mewn digwyddiad mawreddog yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar nos Iau, 12fed o Fawrth, bu i Tŷ Newydd dderbyn tystysgrif rhagoriaeth mewn partneriaeth gyda Phartneriaeth Adeiladwyr Gogledd Cymru, dan arweiniad Carillion plc.

Bu i Bartneriaeth Adeiladwyr Gogledd Cymru sy’n cynnwys Carillion plc., Capita Symonds, Kier North West, R L Davies, Lawray, Wynne Construction, Chandler KBS, Russel Hughes Architects, Costain, Allwedd, Ellis Williams Architects, Corderoy ag R Ll Williams, ddarparu nawdd ar gyfer Creu Cysylltiadau / Reaching Out - prosiect arloesol e-gyfeillio Ewropeaidd ar gyfer ysgolion cynradd. Bu i Paul Pearson, Rheolwr Masnachol Carillion plc. a Sally Baker, Cyfarwyddwr Gweithredol Tŷ Newydd dderbyn eu tystysgrif gan Ieuan Wyn Jones a ddisgrifiodd y bartneriaeth yn ei araith agoriadol fel esiampl o sut y gall busnes a’r celfyddydau gydweithio er budd cymunedau lleol.

tystysgrif

 

 

logo


Mae Tŷ Newydd a Chyfnewidfa Lên Cymru wedi cyhoeddi manylion ar eu partneriaeth newydd ar gyfer sefydlu Tŷ Cyfieithu Cymru. Mae’r ddau sefydliad llenyddol, blaenllaw wedi dod at ei gilydd i roi hwb pellach i’r gwaith o gyfnewid llenyddiaeth rhwng Cymru a’r byd.

Wedi ei leoli yn Tŷ Newydd, bydd Tŷ Cyfieithu Cymru – Translators’ House Wales yn cynnal cyrsiau ar gyfer cyfieithwyr rhyngwladol sy’n awyddus i gyhoeddi gwaith o Gymru mewn gwahanol ieithoedd..  

Bydd cyfnodau preswyl yn cael eu cynnig i awduron tramor a chyfieithwyr llenyddiaeth Gymraeg yn ogystal â hyfforddiant i lenorion sydd am gyfieithu eu gwaith o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Bydd cyfle hefyd i awduron a beirdd o Gymru dreulio cyfnodau dramor drwy rwydwaith rhyngwladol o dai cyfieithu ac ysgrifennu.

Mae partneriaeth arbenigol yn cael ei datblygu gyda rhwydwaith ryngwladol Halma sy’n hyrwyddo cyfnewid llenyddiaeth ar draws Ewrop, yn dilyn cais aelodaeth llwyddiannus gan y Gyfnewidfa Lên a Thŷ Newydd ym mis Rhagfyr 2008.

“Mae Tŷ Cyfieithu Cymru yn gam pwysig arall yn ein hymgyrch i gysylltu Cymru gyda’r farchnad gyhoeddi ehangach y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig,” meddai Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr y Gyfnewidfa Lên sydd wedi ei leoli yn Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae rôl y cyfieithydd yn allweddol i’r gwaith o gyfnewid llenyddiaeth ar draws ffiniau ieithyddol ac er mwyn cyrraedd marchnad fyd-eang y mae’n hanfodol ein bod yn meithrin sgiliau cyfieithu yma yng Nghymru sydd eu hangen i hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru ar draws y byd.” ychwanegodd.

Yn ôl Cyfarwyddwr Gweithredol Tŷ Newydd, Sally Baker, y mae’r bartneriaeth yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o hyrwyddo llenyddiaeth Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

“Mae partneriaeth Tŷ Cyfieithu Cymru yn ddatblygiad unigryw a chyffrous. Mae’n cyfuno profiad helaeth a lleoliad godidog Tŷ Newydd gyda’r arbenigedd y mae Cyfnewidfa Lên Cymru wedi ei ddatblygu ym maes cyfnewid llenyddiaeth rhyngwladol.” meddai.

Caiff y cwrs cyntaf o dan faner Tŷ Cyfieithu Cymru ei gynnal ym mis Tachwedd 2009. Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar farddoniaeth.Bydd cyrsiau eraill yn y dyfodol ar ffuglen a ffurfiau llenyddol eraill.

Mae Cyfnewidfa Lên Cymru wedi ei leoli yn Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth. Eu hamcan yw hyrwyddo llenyddiaeth ac awduron o Gymru dramor gan gynnig grantiau cyfieithu i gyhoeddwyr:

Mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn rhan o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae amcanion a gweithgareddau’r Gyfnewidfa yn cynnwys hyrwyddo llenyddiaeth a llenorion Cymru dramor; cynnig grantiau cyfieithu i gyhoeddwyr; darparu gwybodaeth am awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr; mynychu ffeiriau llyfrau rhyngwladol; cydweithio gyda gwyliau a digwyddiadau tramor, a bod yn rhan o brosiectau llenyddol rhyngwladol.

logo

 

'Creu Cysylltiadau - Reaching Out'

Disgyblion o Ysgol Gynradd Cae Top yn Ty Newydd fel rhan o brosiect e-gyfeillio Ewropeaidd.

Mae’r prosiect newydd hwn wedi galluogi Ysgol Gynradd Cae Top i fod yn rhan o gynllun e-gyfeillio gydag ysgolion cynradd eraill ar draws Ewrop.
Drwy gwrs preswyl tri diwrnod yn Nhŷ Newydd ag ymweliadau artistiaid â’r ysgol y mae’r disgyblion wedi cael cyfle gwych i ddysgu mwy am draddodiadau Cymreig.
Yn ogystal â chael y cyfle i ddysgu mwy am eu diwylliant eu hunain a chreu cysylltiadau gydag ysgolion o wledydd eraill, mae’r disgyblion wedi cael profiad unigryw o allu treulio amser helaeth yn datblygu eu dawn greadigol yng nghwmni artistiaid proffesiynol.
Ym mis Chwefror bu ’r disgyblion yn dysgu am straeon y Mabinogion ac am offerynnau traddodiadol Cymreig yng nghwmni’r gantores a’r storïwraig, Mair Tomos Ifans, bardd a cherddor, Twm Morys a’r storïwr Eric Maddern.
Ym mis Mawrth, buont yn gweithio ar greu alaw werin gyda Twm Morys a fydd yn cael ei pherfformio yn ystod diwrnod agored Tŷ Newydd ar y 16eg o Fai.
Cafodd y disgyblion hefyd y cyfle i greu eu gwisgoedd traddodiadol eu hunain allan o ddefnyddiau amrywiol mewn gweithdy celf undydd gydag Amber Smit, a chafodd dosbarth dawnsio gwerin gydag Edward Elias ei drefnu ar eu cyfer gyda’r nos. Bu i Michael Freeman o Amgueddfa Ceredigion wneud cyflwyniad ar y wisg draddodiadol ar eu diwrnod olaf.
Mae record digidol o’r gweithdai wedi ei greu a fydd yn cael ei yrru drwy gyfrwng y wê i’r ysgolion yn Ewrop ac mae’r disgyblion wedi cyfrannu at y gwaith o greu DVD o’r  prosiect gyda chwmni teledu Chwarel.

 

Noddwyd y prosiect hwn gan North Wales Construction Partnership ac Arts and Business Cymru.

twmorys

 
   

 

 
       
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)