Ty Newydd
   Ty Newydd . Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd LL52 0LW . 01766 522811 . post@tynewydd.org
  Mae Ty Newydd yn cydweithio â'r Academi
   
 
 
 

 

Ty Cyfieithu

Ysgoloriaeth Ryngwladol Halma i Awduron Cymru.

Preswyliad am ddau fis mewn dwy wlad Ewropeaidd (rhywdwaith Halma)

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 21ain o Hydref 2009

Cliciwch yma am wybodaeth

 

 

Mae Tŷ Newydd a Chyfnewidfa Lên Cymru wedi cyhoeddi manylion ar eu partneriaeth newydd ar gyfer sefydlu Tŷ Cyfieithu Cymru. Mae’r ddau sefydliad llenyddol, blaenllaw wedi dod at ei gilydd i roi hwb pellach i’r gwaith o gyfnewid llenyddiaeth rhwng Cymru a’r byd.

Wedi ei leoli yn Tŷ Newydd, bydd Tŷ Cyfieithu Cymru – Translators’ House Wales yn cynnal cyrsiau ar gyfer cyfieithwyr rhyngwladol sy’n awyddus i gyhoeddi gwaith o Gymru mewn gwahanol ieithoedd..  

Bydd cyfnodau preswyl yn cael eu cynnig i awduron tramor a chyfieithwyr llenyddiaeth Gymraeg yn ogystal â hyfforddiant i lenorion sydd am gyfieithu eu gwaith o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Bydd cyfle hefyd i awduron a beirdd o Gymru dreulio cyfnodau dramor drwy rwydwaith rhyngwladol o dai cyfieithu ac ysgrifennu.

Mae partneriaeth arbenigol yn cael ei datblygu gyda rhwydwaith ryngwladol Halma sy’n hyrwyddo cyfnewid llenyddiaeth ar draws Ewrop, yn dilyn cais aelodaeth llwyddiannus gan y Gyfnewidfa Lên a Thŷ Newydd ym mis Rhagfyr 2008.

“Mae Tŷ Cyfieithu Cymru yn gam pwysig arall yn ein hymgyrch i gysylltu Cymru gyda’r farchnad gyhoeddi ehangach y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig,” meddai Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr y Gyfnewidfa Lên sydd wedi ei leoli yn Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae rôl y cyfieithydd yn allweddol i’r gwaith o gyfnewid llenyddiaeth ar draws ffiniau ieithyddol ac er mwyn cyrraedd marchnad fyd-eang y mae’n hanfodol ein bod yn meithrin sgiliau cyfieithu yma yng Nghymru sydd eu hangen i hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru ar draws y byd.” ychwanegodd.

Yn ôl Cyfarwyddwr Gweithredol Tŷ Newydd, Sally Baker, y mae’r bartneriaeth yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o hyrwyddo llenyddiaeth Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

“Mae partneriaeth Tŷ Cyfieithu Cymru yn ddatblygiad unigryw a chyffrous. Mae’n cyfuno profiad helaeth a lleoliad godidog Tŷ Newydd gyda’r arbenigedd y mae Cyfnewidfa Lên Cymru wedi ei ddatblygu ym maes cyfnewid llenyddiaeth rhyngwladol.” meddai.

Caiff y cwrs cyntaf o dan faner Tŷ Cyfieithu Cymru ei gynnal ym mis Tachwedd 2009. Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar farddoniaeth.Bydd cyrsiau eraill yn y dyfodol ar ffuglen a ffurfiau llenyddol eraill.

Mae Cyfnewidfa Lên Cymru wedi ei leoli yn Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth. Eu hamcan yw hyrwyddo llenyddiaeth ac awduron o Gymru dramor gan gynnig grantiau cyfieithu i gyhoeddwyr:

Mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn rhan o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae amcanion a gweithgareddau’r Gyfnewidfa yn cynnwys hyrwyddo llenyddiaeth a llenorion Cymru dramor; cynnig grantiau cyfieithu i gyhoeddwyr; darparu gwybodaeth am awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr; mynychu ffeiriau llyfrau rhyngwladol; cydweithio gyda gwyliau a digwyddiadau tramor, a bod yn rhan o brosiectau llenyddol rhyngwladol.


logocyfieithu
 
 


 
           
Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf., sy'n rhedeg Ty Newydd, yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (rhif: 2640639) gyda statws Elusen (rhif: 1004108)