|
Mae Tŷ Newydd yn cynnig cyrsiau ysgrifennu preswyl i grwpiau ysgol. Fel arfer mae'r cyrsiau hyn yn 4 diwrnod o hyd, o gyda'r nos nos Lun tan bore Sadwrn. maent yn dilyn yr un patrwm a chyrsiau oedolion. Bydd dau diwtor profiadol ym maes dysgu ysgrifennu creadigol yn tiwtora drwy'r wythnos a siaradwr gwadd yn perfformio ar y nos Fercher. Cyrsiau yw'r rhain ar gyfer 16 disgybl a 2 athro/athrawes.
Mae pawb yn aros yn Nhŷ Newydd drwy gydol y cwrs mewn awyrgylch anffurfiol ac hamddenol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud eu brecwast a'u cinio eu hunain ac fel rhan o dîm yn helpu i baratoi un pryd bwyd gyda'r nos ar gyfer gweddill y criw.
Mae'r cwrs yn cynnwys sesiynau grŵp, tiwtora unigol, darlleniadau ac amser i'r disgyblion i weithio ar eu pen eu hunain. Mae'r profiad o dreulio amser mewn lle fel Tŷ Newydd a chael y cyfle i ganolwyntio ar ddim ond ysgrifennu yn werthfawr tu hwnt, nid yn unig o safbwynt datblygiad sgiliau ysgrifennu'r disgyblion a'u gallu i gyfleu eu teimladau ar bapur, ond hefyd o safbwynt datblygu eu sgiliau cymdeithasol.
Rydym yn creu cyrsiau yn arbennig ar gyfer anghenion yr ysgol. Rydym yn trafod cynnwys y cwrs o flaen llaw ac yn trafod y darpar diwtoriaid gyda'r athrawon.
Mae'n costio £265 am bob disgybl a daw'r athrawon (2) am ddim.
Er ein bod yn awgrymu cyrsiau 4 diwrnod gan fod mwy o amser i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau'r disgyblion, mae modd i ni drefnu cyrsiau byrrach. Mae mwy o wybodaeth, ynghyd ag esiampl o amserlen cwrs a DVD ar gael trwy gysylltu â ni. Mae modd dadlwytho fersiwn PDF o'n taflen 'Hawl i Sgwennu' trwy glicio ar y llun isod:
.
|